Mae Cyngor Plwyf Penmynydd ar Ynys Môn wedi pleidleisio i wrthwynebu unrhyw fwriad i godi tyrbinau gwynt yn yr ardal.
Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal ym Mhenmynydd neithiwr i drafod dyfodol tyrbinau gwynt yn Ynys Môn. Y Cyngor Cymuned oedd wedi galw am y cyfarfod.
Dywedodd llefarydd ar ran gwrthwynebwyr tyrbinau gwynt fod “cryn ddadlau” wedi bod ynghylch y cynlluniau.
Roedd un o’r prif drafodaethau’n canolbwyntio ar gynllun i godi tyrbin 78 metr o uchder ym mhentref March Ynys.
Ar ôl y cyfarfod cyhoeddus pleidleisiodd Cyngor Plwyf Penmynydd o blaid gwrthwynebu codi tyrbinau gwynt yn yr ardal.
Meddai llefarydd: “Roedd y neuadd dan ei sang, gyda 40 i 50 o bobl yn gorfod sefyll y tu allan. Roedd ’na lot o ddadleuon da yn erbyn codi tyrbinau gwynt a phenderfynodd y cyngor plwyf wneud safiad, a gwrthwynebu unrhyw dyrbin 15 metr o uchder o fewn yr ardal.”
Mae’r cais i godi tyrbin gwynt wedi cael ei gyflwyno gan un o gynghorwyr cymuned yr ardal, John Foulkes o Farch Ynys.
Dywedodd John Foulkes nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod ond ei fod dal yn obeithiol y bydd y cais yn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Sir.