Mae cyn dditectif gwnstabl wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio ei bartner.

Roedd Peter Foster, 36, wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o ladd y Ditectif Gwnstabl Heather Cooper, 33, oedd wedi cael ei thrywanu cyn i’w chorff gael ei adael mewn coedwig ger Lurgashall, Gorllewin Sussex ym mis Hydref y llynedd.

Ond yn Llys y Goron Lewes heddiw, fe newidiodd Foster ei ble.

Roedd y cyn dditectif gwnstabl yn byw gyda Heather Cooper, oedd yn fam i ddau o blant, yn Haslemere, Surrey.

Cafodd Heather Cooper ei lladd yng nghartref y cwpl tra roedd hi ar gyfnod mamolaeth ar ôl iddi gael ei hail blentyn.

Roedd Foster wedi honni bod Heather Cooper wedi ymosod arno a’i fod wedi ceisio amddiffyn ei hun ond ei fod wedi troi’n ymosodol.

Clywodd y llys ei fod wedi ei tharo ar ei phen 10 gwaith gyda bat pêl fas cyn ei thrywanu yn ei gwddf.

Wrth ei ddedfrydu heddiw, dywedodd y Barnwr Richard Brown fod Foster yn “unigolyn peryglus iawn”.

Fe fydd Foster yn gorfod treulio o leiaf 17 mlynedd dan glo.