Ysgol Hillcrest, Pentwyn
Mae cwest i farwolaeth bachgen 15 oed mewn ysgol breswyl arbennig yng Nghleirwy ger y Gelli ym Mhowys wedi ei agor a’i ohirio.

Cafwyd hyd i gorff Jordan Kane Woonton, oedd yn dod o ardal Sir Nottingham, yn Ysgol Hillcrest ym Mhentwyn ar ddydd Llun, 18 Mehefin.

Mae’r ysgol breswyl yn cynnig gofal i fechgyn gydag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiad ac yn cael ei redeg gan gwmni o Hampshire.