Adain Avion
Mae awyren go wahanol ar fin glanio yn Abertawe.

Mae Adain Avion yn ofod celfyddydau symudol sydd wedi cael ei greu o gorff awyren DC-9 fel rhan o Ŵyl Llundain 2012.

Bydd yr awyren yn cael ei thynnu i’w lle o flaen Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn y ddinas gan aelodau o dîm rygbi’r Gweilch.

Mae’r awyren wedi cael ei thrawsffurfio dan arweiniad yr artist Marc Rees a fu’n gyfrifol am y prosiect For Mountain, Sand and Sea ar gyfer National Theatre Wales. Mae’n un o brif artistiaid perfformio a gosodiadau Cymru.

Mae Marc wedi bod yn gweithio ar y prosiect am ddwy flynedd ac wedi casglu at ei gilydd griw o artistiaid ar gyfer y prosiect hwn gan gynnwys yr awdur a’r bardd Owen Sheers, y coreograffydd o’r Swistir, Philippe Saire, y coreograffydd o Bortiwgal, Filipa Francisco, yr artistiaid gweledol Cymreig Owen Griffiths, Stefhan Caddick a Carwyn Evans, y cyfansoddwr ac enillydd Bafta Cymru John Hardy, a’r coreograffydd o Gymru, Cai Tomos.

Wrth i’r Adain Avion deithio ar draws Cymru dros yr haf mi fydden nhw’n cydweithio â phobl leol i gynnal perfformiadau, gosodiadau, gweithdai a digwyddiadau ym mhob lleoliad ar y daith.

Yn Abertawe bydd cyfle i flasu cynnyrch gardd arbennig sydd wedi ei chreu lle oedd Cae’r Vetch ac yng Nglyn Ebwy bydd côr meibion lleol yn perfformio.

Yn Llandudno bydd 600 o blant ysgol yn gwylio Tîm Rygbi Gogledd Cymru yn tynnu’r awyren i Venue Cymru.

“Hyd yn hyn, mae dros 2,000 o bobl, 50 o artistiaid a 65 o grwpiau cymunedol yn rhan o’r prosiect,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd holl ddigwyddiadau’r Adain Avion yn cael eu ffilmio a’u storio yn recordydd ‘bocs du’ yr awyren, a’u dangos i filoedd o bobl yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ym mis Awst.

Yna, bydd y ‘bocs du’ yn cael cartref newydd yn Amgueddfa Werin Genedlaethol Sain Ffagan.

“Bydd yn rhan o archif gwerin gyfoes bwysig; cof eclectig ar y cyd i gynrychioli pa mor unigryw yw Cymru yn 2012,” meddai’r llefarydd.