Un o luniau Iwan Dafis
Mae artist o Gymru sydd wedi cael ei ysbrydoli gan hanes ei deulu, sydd wedi bod yn ffermio ers cenedlaethau yng ngorllewin Cymru, wedi derbyn gwahoddiad i arddangos ei waith mewn oriel yn Llundain.
Bydd gwaith Iwan Dafis yn cael ei arddangos yn oriel The Tricycle yn Kilburn gyda gwaith gan Rutie Bortwick, ac fe fydd yr arddangosfa yn agor dydd Llun nesaf.
Tirluniau yw arbenigedd Iwan. Dywed Iwan ei bod hi’n bwysig i ni gymryd hoe yng nghanol ein bywydau prysur i fyfyrio ac i werthfawrogi “ansawdd a phrydferthwch y byd naturiol.”
Ac fe ychwanegodd, “ Fe allwch ystyried fy lluniau i fel ffenestr i edrych drwyddi ar y mannau hyn.”