Aberhonddu
Mae’r gwasanaethau brys wedi ail ddechrau chwilio am ddyn sydd wedi mynd ar goll yn ardal Aberhonddu.

Y gred yw bod y dyn wedi disgyn i mewn i’r Afon Wysg ger Pont Llanfaes yn Aberhonddu yn gynnar bore ddoe.

Bu timau arbenigol yn chwilio’r afon rhwng Aberhonddu a Thal-y-bont ar Wysg amdano.

Ond, roedd yn rhaid iddyn nhw roi’r gorau i’r chwilio brynhawn ddoe am fod yr Afon Wysg yn uchel ac yn llifo’n beryglus o gyflym.