Organ Eglwys Dewi Sant
Eleni, bydd organ Eglwys Dewi Sant yn dathlu ei phen-blwydd yn 125 mlwydd oed. Mae’n cael ei hystyried yn un o organau gorau Cymru ac fe’i hadeiladwyd gan y ‘Tad’ Henry Willis, un o adeiladwyr organ enwocaf Prydain a fu hefyd yn gyfrifol am gynllunio ac adeiladu organ Neuadd Albert yn Llundain.
Mae’n un o’r ychydig offerynnau o waith Willis na chafodd eu newid na’u haddasu dros y blynyddoedd. Mae ei nodweddion gwreiddiol a’i sain ardderchog yn golygu ei bod yn enghraifft nodedig o’i waith ac mae nifer o organyddion enwog wedi ei chwarae dros y blynyddoedd.
I ddathlu’r garreg filltir hon, mae cyfres o ddigwyddiadau a datganiadau wedi cael eu trefnu gan organyddion enwog a ddechreuodd ‘nôl ym mis Ebrill.
Bydd y digwyddiad nesaf nos Sadwrn 23 Mehefin, gyda chyflwyniad gan Huw Tregelles Williams, Abertawe, ar fywyd a gwaith y ‘Tad’ Willis – ‘Er Clod i’r Tad Willis’.
Ymhlith y rhai a fydd yn cyfrannu dros y misoedd nesaf, bydd John Scott, cyfarwyddwr cerdd Eglwys Sant Thomas o Efrog Newydd a fu hefyd yn gyfarwyddwr cerdd Cadeirlan Sant Paul yn Llundain.
Bydd John Scott yn perfformio’r prif ddatganiad ar nos Sadwrn, 21 Gorffennaf am 7.30 yn Eglwys Dewi Sant, 25 mlynedd wedi iddo arwain y dathlu i ddynodi canmlwyddiant yr organ.
Cynhelir gwasanaethau o ddathlu a diolch dydd Sul, 8 Gorffennaf gyda gwasanaeth o’r Cymun Bendigaid am 10.30 y bore lle bydd yr Hybarch Randolph Thomas, Archddiacon Aberhonddu, yn bregethwr gwadd.
Dywedodd Ficer yr Eglwys, Y Parchedig Dyfrig Lloyd, ‘Braint i ni yn Eglwys Dewi Sant yw bod yn berchen ar organ hanesyddol ac sy’n cyfoethogi ein haddoliad ar y Sul a bywyd cerddorol y brifddinas.’