Mae deiseb sy’n galw ar y Llywodraeth i ddysgu mwy o hanes Cymru mewn ysgolion wedi derbyn bron i 500 o lofnodion.

Dywed yr e-ddeiseb nad yw plant Cymru yn dysgu digon am hanes y wlad ac mai “rhai elfennau yn unig sy’n cael eu cynnwys i gyd-fynd â chyfnodau a digwyddiadau penodol” yn hytrach na hanes Cymru ar ei hyd.

Cafodd y ddeiseb ei threfnu gan Russell Gwilym Morris o Sgiwen ger Castell Nedd, a dywed ei fod wrth ei fodd gydag ymateb y cyhoedd hyd yn hyn.

“Mae’r ymateb yn dangos fod llawer o bobol eraill yn teimlo’r un peth â fi,” meddai.

“Mae angen rhoi mwy o sylw i hanes Cymru a hanes lleol yn hytrach na disgwyl i ddisgyblion ddarganfod hanes eu gwlad trwy hap a damwain.

“Pan oeddwn i yn yr ysgol ro’n ni’n dysgu am 1066, Elisabeth y cyntaf, Siarl y cyntaf, Oliver Cromwell ac yn y blaen. Dim oll am Rhodri Mawr, Hywel Dda, y ddau Lywelyn, Owain Glyndŵr,” meddai Russell Gwilym Morris, sy’n aelod o fudiad Balchder Cymru.

“Faint o bobol Cymru sydd wedi clywed am derfysgoedd Tonypandy, Merthyr a Llanelli? Pwy sy’n gallu adrodd hanes Dic Penderyn? Mae’r ysgolion yn dysgu rhywfaint o hanes Cymru ond tocenistiaeth yw e. Rydym ni wedi cael ein hamddifadu o’n hanes ein hunain tra bod hanes Prydeingar yn cael ei wthio arnom ni er mwyn dileu ein hunaniaeth.”

Prydeinwyr

Dywed Russell Gwilym Morris fod y system addysg yn cyflyru plant i feddwl fod pawb ar ynys Prydain yn Brydeinwyr.

“Dydyn ni ddim i gyd yr un fath. Mae yna Gymry, Saeson, Cernywiaid ac Albanwyr. Mae ganddon ni gyd ein hunaniaeth ac mae’n hen bryd i’r system addysg adlewyrchu hynny.”

Mae’r ddeiseb ar agor ar wefan ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru tan fis Rhagfyr eleni. Mae disgwyl y bydd yn cael ei hystyried wedyn gan y Pwyllgor Deisebau sydd ar hyn o bryd dan gadeiryddiaeth William Powell AC o’r Democratiaid Rhyddfrydol.