Fe fydd dawnswyr gwerin o bob cwr o Gymru yn cyfarfod i ddawnsio a diddanu o gwmpas y Pawl Haf, yng Nghaerdydd y penwythnos hwn. A bydd timau dawnsio Meskajou o Lydaw a La Picouline o ardal Dauphine ym mynyddoedd yr Alpau yn teithio i Gymru er mwyn ymuno yn y sbri.

Mae canol ha’, Mehefin 21 wedi ei ddathlu yng Nghymru ers cyn hanes. Ac eleni, fe fydd dawnswyr a cherddorion yn cyfarfod am 8 o’r gloch nos fory am Dwmpath yng Ngwesty’r Angel, Caerdydd, lle bydd croeso i bawb ymuno i ddawnsio i gerddoriaeth gan Yr Hennesseys, ymysg eraill.

Yna, fore Sadwrn, bydd y grwpiau dawns yn eu gwisgoedd lliwgar yn gorymdeithio â’r Pawl Haf ar hyd Stryd y Castell ac i fyny Rhodfa’r Brenin at Lawnt Neuadd y Ddinas lle byddan nhw’n codi’r pawl, gafael yn y rhubanau a phlethu stepiau â rhubanau lliw o’i gwmpas.

Wedi hynny am hanner dydd, bydd arddangosiad o ddawnsfeydd gwerin yng nghyntedd yr Amgueddfa Genedlaethol, cyn y bydd grŵp arall yn arddangos eu stepiau ac annog gwylwyr i ymuno â’r troelli a’r twmpath yn ardal y Lanfa, Canolfan Mileniwm Cymru am weddill y pnawn.

Bydd y grwpiau’n ail-ymgynnull tua 4.30pm ar Lawnt Neuadd y Ddinas i gyd-ddawnsio, tynnu’r Pawl Haf i lawr, cyn gorymdeithio’n ôl i Westy’r Angel.