Mae mudiad amgylcheddol wedi dweud fod uwchgynhadledd Rio+20 yn gyfle i Gymru “ailddarganfod y brwdfrydedd dros gynaladwyedd a ysgogwyd gan yr uwchgynhadledd wreiddiol yn 1992.”
Mae uwchgynhadledd y Ddaear yn cychwyn yn Rio de Janeiro ar 20 Mehefin, ugain mlynedd ers y gynhadledd ddaear wreiddiol yn yr un ddinas, a deng mlynedd ers cynhadledd Johannesburg.
Yn ôl adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw gan WWF Cymru mae Uwchgynadleddau’r Ddaear wedi dylanwadu ar wleidyddion yng Nghymru ac wedi paratoi’r ffordd ar gyfer Cynllun Datblygu Cynaliadwy a Bil Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
“Gall Uwchgynadleddau’r Ddaear ymddangos yn bell o’n pryderon pob dydd, ond mae’r adroddiad hwn yn dangos eu bod, mewn gwirionedd, wedi ysbrydoli pobl, sefydliadau a llywodraeth yng Nghymru i ofalu am ein planed yn well” meddai Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru.
Mae’r adroddiad yn nodi datblygiadau a gafodd eu hysgogi gan Rio 1992, megis Cymru’n dod yn genedl fasnach deg gyntaf y byd yn 2008, a chyflwyno tâl am fagiau plastig yn 2011. Yn 2002 cynrychiolodd Rhodri Morgan Gymru yn Johannesburg.
“Rydyn ni eisiau i’r uwchgynhadledd eleni ailgynnau’r brwdfrydedd dros gynaladwyedd a welsom yn 1992 a 2002” ychwanegodd Anne Meikle.
Gweinidog Amgylchedd Cymru yn mynd i Rio
Mae Gweinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, yn mynd i gynhadledd amgylcheddol Rio+20 ymhen wythnos fel rhan o ddirprwyaeth Prydain.
Yn ôl y dirprwy weinidog amaeth, Alun Davies AC, mae’r uwchgynadleddau blaenorol wedi cael dylanwad mawr ar Gymru.
“Wnaethon nhw newid ein ffordd o feddwl a gwneud pobl yn fwy ymwybodol o lawer o’r angen i edrych ar ôl ein planed.
“Heb yr uwchgynadleddau, fyddai datblygu cynaladwy ddim ar yr agenda yn y ffordd y mae heddiw – fyddai ddim wedi bod yn rhan o sefydlu Cynulliad Cymru, fydden ni ddim yn cael Bil Datblygu Cynaliadwy.
“Dwi eisiau i uwchgynhadledd eleni gael effaith debyg wrth helpu i greu byd mwy cynaliadwy” ychwanegodd Aelod Cynulliad Blaenau Gwent.
Cynaladwyedd fydd prif thema’r uwchgynhadledd ym Mrasil.