Fflag Ynysoedd y Falklands
Bydd rhaid i’r Ariannin dderbyn penderfyniad democrataidd pobol Ynysoedd y Falklands yn dilyn eu refferendwm y flwyddyn nesaf, ebe Llywodraeth San Steffan.
Dywedodd Gweinidog y Swyddfa Gartref, David Lidington, eu bod nhw’n “gefnogol iawn” i’r syniad o gynnal refferendwm.
Bydd y refferendwm yn cael ei gynnal yn hanner cyntaf 2013, ac yn gyfle i drigolion yr ynys benderfynu a ydyn nhw eisiau bod yn rhan o diriogaeth y Deyrnas Unedig ynteu’r Ariannin.
Dywedodd llywodraeth Ynysoedd y Falklands eu bod nhw wedi penderfynu cynnal y refferendwm er mwyn datrys yr anghydfod unwaith ac am byth.
Mae tua 3,000 o bobol yn byw ar yr ynysoedd ar hyn o bryd.
Yfory fydd 30ain pen-blwydd penderfyniad yr Ariannin i ildio yn ystod Rhyfel y Falklands.
‘Cyfreithiol, teg a therfynol’
“Mae Ynysoedd y Falklands wedi mynnu yn y gorffennol eu bod nhw eisiau parhau yn rhan o diriogaeth Prydain,” meddai David Lidington yn Nhŷ’r Cyffredin.
“Does ganddyn nhw ddim diddordeb mewn bod yn rhan o’r Ariannin.
“Serch hynny mae llywodraeth yr Ariannin naill ai yn camddehongli barn pobol yr ynys neu yn ei hwfftio.
“Fe fydd y refferendwm yn fodd cyfreithiol, teg a therfynol i bobol yr ynysoedd fynegi eu barn ar y mater.
“Rydw i’n gobeithio y bydd yr Ariannin ac, yn wir, y gymuned ryngwladol yn ei gyfanrwydd, yn nodi barn ddemocrataidd trigolion yr ynys.”