Edwina Hart
Fe fydd Llywodraeth Cymru’n ymgynghori a thrafod ar ôl cyhoeddi adroddiad ar ddyfodol trethi busnes yng Nghymru.

Mae hwnnw’n gwneud 19 o argymhellion ynglŷn â ffyrdd o ddiwygio’r system er mwyn rhoi hwb i’r economi yng Nghymru.

Yn eu plith, mae ystyried mwy o degwch rhwng trethi busnes yng nghanol trefi ac mewn datblygiadau ar y cyrion a chwilio am ffyrdd o roi mwy o gymorth o Ewrop i ganol trefi.

Mae’r adroddiad, dan arweiniad yr Athro Brian Morgan o Gaerdydd, hefyd yn awgrymu llacio’r rheolau ynglŷn â threthi ar eiddo gwag er mwyn hyrwyddo gwelliannau a datblygiadau newydd.

Ond dyw’r adroddiad ddim wedi gwneud argymhellion pendant ynghylch dau o’r meysydd mawr – mae’n dweud y dylai Comisiwn Silk ystyried datganoli trethi busnes ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried rhoi caniatâd i awdurdodau lleol gadw peth o arian y trethi.

‘Dechrau trafodaeth’

Fe ddywedodd y Gweinidog Economi, Edwina Hart, y byddai hi’n trafod gyda gweddill y cabinet cyn rhoi ymateb ac y byddai’r Athro Morgan yn trafod gyda chyfranogwyr eraill.

“Dechrau dialog yw’r Adroddiad yma, nid y diwedd,” meddai. “Rwy’n hyderus ei fod yn rhoi llawer i ni ei ystyried wrth wynebu’r sialens o greu trefn drethi busnes sy’n fwy atebol ac yn fwy cystadleuol yng Nghymru.”