Fe fydd degau o filoedd o bobol ifanc Cymru’n cael eu gorfodi i rentu cartrefi neu fyw gyda’u rhieni yn hytrach na phrynu tai yn ystod y blynyddoedd nesa’.
Dyna’r casgliad mewn adroddiad i’r farchnad dai gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, sy’n rhybuddio bod angen adeiladu llawer rhagor o dai i osgoi anhrefn – gan gynnwys tai rhent.
Maen nhw hefyd yn dweud y bydd rhai o’r mesurau i helpu pobol ifanc yn gwneud pethau’n waeth trwy wthio prisiau’n uwch, os na fydd rhagor o gartrefi ar gael.
Fe fydd teuluoedd ifanc yn wynebu problemau arbennig ac mae’r ymchwilwyr yn galw am renti is a mwy o sicrwydd tenantiaeth.
‘Angen diwygio sylfaenol’
Un o’r anghenion mwya’, yn ôl yr adroddiad i Sefydliad Joseph Rowntree, yw diwygiad sylfaenol yn nhrefn tai rhent preifat, gyda mwy o dai, gwell tai a mwy o sicrwydd i denantiaid.
Roedd yr ymchwilwyr wedi cymharu’r farchnad dai yn 2008 gyda’r hyn sy’n debyg o fod yn 2020 ac maen nhw’n rhybuddio y bydd pobol ifanc yn cael eu gyrru fwy a mwy i’r ymylon.
- Trwy wledydd Prydain, medden nhw, fe fydd nifer y bobol ifanc sy’n berchnogion ar eu tai yn agos at haneru – o 2.4 miliwn i 1.3 miliwn.
- Fe fydd 550,000 yn rhagor yn byw gyda’u rhieni – gan roi cyfanswm o 3.7 miliwn.
- Fe fydd nifer y bobol ifanc mewn tai rhent preifat yn codi 1.64 miliwn i bron 5 miliwn.
Prif gasgliadau’r adroddiad
Dyma’r prif gasgliadau yn yr adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw:
“Yn 2020, fe fydd pobl ifanc wedi eu gyrru fwy i’r ymylon o fewn system dai sy’n gweithio’n wael.
“Er mwyn ymateb i’r sialensiau tai sy’n wynebu pobol ifanc yn 2020, fe fydd angen ymyrraeth sylfaenol yn system dai’r Deyrnas Unedig.
“Mae angen arbennig am ddiwygio’r Sector Rhent Preifat, gan gydbwyso budd landlordiaid a thenantiaid.
“Bydd y cynnydd yn nifer y teuluoedd sy’n byw yn y Sector Rhent Preifat yn gofyn am fwy o sicrwydd yn y sector.”