Jamie Adams
Fe fydd arweinydd Cyngor Sir Benfro yn cwrdd â Gweinidog Addysg Cymru a’r Dirprwy Weinidog Plant heddiw ar ôl i’r awdurdod gael rhybudd terfynol ddoe am ei fethiant i ddiogelu plant.
Ym mis Awst y llynedd cafodd adroddiad damniol ei gyhoeddi yn cyhuddo’r awdurdod o fethu yn ei dyletswydd i ddiogelu plant yn dilyn honiadau o gam-drin, a ddoe dywedodd Llywodraeth Cymru fod cynnydd Cyngor Sir Benfro yn y maes “yn parhau i fod yn boenus o araf”.
Roedd Leighton Andrews a Gwenda Thomas wedi anfon llythyr at Arweinydd Cyngor Sir Benfro, y Cynghorydd Jamie Adams, yn gofyn iddo weithredu ar frys.
Dywedodd y ddau Weinidog mewn datganiad ddoe nad oes gan Gyngor Sir Benfro “yr ymdeimlad o’r angen i weithredu ar fyrder y byddem yn ei ddisgwyl er mwyn mynd i’r afael â’r methiannau allweddol.”
Methiannau
Ymhlith y methiannau, medd y Llywodraeth, mae anallu’r Cyngor i ymyrryd pan glymodd athro ddwylo plentyn ysgol gynradd, a’r defnydd o ystafelloedd encilio yn ysgolion cynradd Sir Benfro er mwyn cloi plant i mewn. Mae’r Llywodraeth wedi tynnu sylw’r heddlu at y dystiolaeth sydd ganddyn nhw.
Yn ôl Leighton Andrews a Gwenda Thomas mae “wedi ymddangos nad yw prif swyddogion naill ai’n gwybod beth sy’n digwydd yn eu hysgolion, neu eu bod yn gwybod ac wedi methu â’i ddatgelu neu wedi methu â gweithredu.”
Mae gan y Cynghorydd Jamie Adams ddeg diwrnod i ymateb i bryderon y ddau Weinidog, sydd wedi rhybuddio yn eu datganiad eu bod nhw wedi “aros yn ddigon hir” ac nad ydyn nhw’n barod i roi rhybudd arall.
‘Penbleth’
Ond mae Jamie Adams wedi datgan ei “benbleth” dros amseriad y datganiad ac yn mynnu bod pethau wedi gwella yn ystod y misoedd diwethaf.
“Rwy’n synnu fod y datganiad yma wedi ei ryddhau heddiw (dydd Mawrth) o ystyried fod gen i gyfarfod ddydd Mercher – ar fy nghais i – i gwrdd â’r Gweinidogion,” meddai
“Fy mwriad yw darparu tystiolaeth iddyn nhw am ein cynnydd dros y misoedd diwethaf.
“Rwy’n bryderus nad yw rhai o’r safbwyntiau a gafodd eu mynegi i’r Gweinidogion yn adlewyrchu safbwynt yr Awdurdod. Heb linellau cyfathrebu eglur rhyngom ni a’r Gweinidogion rwy’n teimlo y bydd hi’n anodd i ni wneud cynnydd. Rwy’n gobeithio datrys rhai o’r materion hyn pan fyddaf yn cwrdd â’r Gweinidogion.”
Dywed y Cynghorydd Sue Perkins, sydd yng ngofal Gwasanaethau Plant ar gabinet Cyngor Sir Benfro, eu bod nhw wedi “gwneud camau breision ymlaen yn ystod fy nghyfnod byr yn aelod o’r cabinet.”
‘Angen ymyrryd ar unwaith’
Y bore ma dywedodd AC Plaid Cymru, Simon Thomas wrth BBC Radio Cymru bod angen i’r Llywodraeth ymyrryd ar unwaith gan fod gofal plant yn y fantol.
Dywedodd Angela Burns AC fod y Ceidwadwyr yn croesawu datganiad y Llywodraeth ac yn pryderu am y defnydd o ystafelloedd encilio yn ysgolion Sir Benfro.
“Dwi’n methu â gweld sut mae defnyddio ystafell encilio yn cael ei ystyried yn briodol yn yr oes sydd ohoni.
“Ni ddylai caethiwed a chywilydd cyhoeddus fod yn rhan o arfogaeth athrawon” meddai Aelod Cynulliad Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro.