Bradley Manning
Mae’r Cymro sy’n wynebu cyhuddiadau o ollwng cannoedd o filoedd o ffeiliau cyfrinachol i wefan Wikileaks wedi diolch i’w gefnogwyr am ymgyrchu ar ei ran.

Fe ddaeth y datganiad byr gan Bradley Manning trwy ddwylo ei gyfreithwyr, yn dilyn gwrandawiad cyn-yr-achos yn ei erbyn yr wythnos ddiwetha’.

Roedd degau o gefnogwyr wedi casglu yn Fort Meade, Maryland, i ddangos eu cefnogaeth, gyda rhai’n gwisgo crysau-T ag un gair arnyn nhw – “Truth”.

“Dw i’n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth ac yn teimlo’n wylaidd oherwydd eich ymdrechion parhaus,” meddai Bradley Manning.

Y cefndir

Mae’r cyn weithiwr cyfrifiadurol gyda lluoedd arfog yr Unol Daleithiau wedi ei gyhuddo o ollwng ffeiliau i wefan Wikileaks, a’r rheiny’n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol am ryfeloedd Irac ac Afghanistan.

Mae’r rheiny’n cynnwys tystiolaeth fod lluoedd yr Unol Daleithiau wedi lladd llawer o bobol gyffredin yn y ddau ryfel.

Ar un adeg, yn ôl ei gefnogwyr, roedd Bradley Manning yn cael ei gadw mewn amgylchiadau gwael ar ei ben ei hun mewn carchar caled ac maen nhw hefyd yn cwyno nad yw ei dîm cyfreithiol yn cael dogfennau gan yr erlyniad.

Mae mam y dyn 24 oed yn Gymraes ac fe gafodd yntau ei fagu’n rhannol a mynd i’r ysgol uwchradd yn Hwlffordd.