Fe fydd gwyddonwyr yn ymchwilio i weld a yw’r llifogydd mewn rhannau o Geredigion wedi llygru’r tir gyda metelau gwenwynig.

Mae na bryderon y gall rhai ardaloedd fod wedi eu llygru gan fetelau niwedidol o hen fwyngloddiau yn sgil y llifogydd.

Roedd hyd at bum troedfedd o ddŵr wedi llifo drwy rannau o Geredigion dros y Sul ac mae’r gwaith o glirio’r llanast yn parhau yn Aberystwyth a phentrefi Talybont, Dol-y-Bont a Llandre.

Fe fydd tîm o Brifysgol Aberystwyth yn archwilio ardaloedd afonydd Leri, Rheidol ac Ystwyth.

Dywedodd yr Athro Mark Macklin o Brifysgol Aberystwyth wrth BBC Cymru y gallai grym y llifogydd fod wedi erydu ochrau’r afonydd, oedd yn cynnwys metelau gwenwynig fel plwm a sinc, gan ollwng y gwenwyn i’r dŵr.

“Mae na bryderon bod tir fferm wedi cael ei lygru ac fe allai hynny beri risg i anifeiliaid a chnydau,” meddai.

Dywedodd bod disgwyl iddyn nhw gyflwyno’u casgliadau ymhen rhyw fis.