Mae’r dewin bach ar ei ffordd i Japan.

Mae disgwyl y bydd cyn-chwaraewr y Gweilch a Chymru, Shane Williams, yn arwyddo cytundeb blwyddyn i chwarae i dîm Mitsubishi Dynaboars yn Ail Adran Cynghrair Japan y tymor nesaf.

Mi ffarweliodd Shane â’r Gweilch mewn ffordd ddramatig drwy sgorio cais ym munudau ffeinal y Gynghrair Pro12 i guro Leinster.

Mi wnaeth o sgorio yn y munudau ola hefyd yn y gêm ryngwladol yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr y llynedd pan wnaeth Cymru golli i Awstralia.

Sgoriodd 57 o geisiadau mewn 141 gêm i’r Gweilch. Cyhoeddodd ym mis Chwefror eleni ei fod am ymddeol o’r gamp ar ôl iddo wrthod cytundeb blwyddyn arall gyda’r Gweilch.

Mae’n siŵr fod ffans rygbi Japan wrth eu boddau gyda’r newyddion fod Shane yn bwriadu chwarae yno’r tymor nesaf, a’u bod eisoes yn gyfarwydd â’i steil gyffrous o chwarae. Un cwestiwn fyddan nhw ddim yn ofyn iddo felly fydd Namae wa? (Beth yw dy enw?)

Brawddegau eraill fydd efallai o ddefnydd iddo:

Gohan-ga atsui (Mae’r reis yn boeth)

Watashi was sushi ga ii desu  (Yn fy marn i, mae’r sushi’n dda)