Gethin Jenkins
Mae prop tîm rygbi Cymru Gethin Jenkins wedi dweud y bydd yn rhaid iddyn nhw chwarae’n well yn yr Ail Brawf yn erbyn Awstralia dydd Sadwrn nesaf.
Bydd yn rhaid i’r Cymry weithio’n galed yn ystod yr wythnos er mwyn taro nôl ym Melbourne, meddai.
“Mi wnaethoch chi weld pa mor fedrus yw chwaraewyr Awstralia. Allen ni ddim rhoi unrhyw gyfleoedd iddyn nhw,” ychwanegodd.
“Mi wnaethon ni gael ail wynt wrth inni arfer ag angerdd y chwarae, ac mae cyfle ganddo’n ni i adeiladu ar hyn.
“Mi wnaeth y gêm ddangos pa mor dda sy’n rhaid i chi fod i chwarae yn Hemisffer y De lle maen nhw’n chwarae gyda’r un angerdd bob wythnos. Mae’n rhaid inni fod cystal â nhw.”