Mae Awstralia wedi curo Cymru yn y Prawf cyntaf ym Mrisbane.
Mi wnaeth y Cymry chwarae’n well yn yr ail hanner yn sicr, a phan sgoriodd Alex Cuthbert gais, a gafodd ei drosi gan Leigh Halfpenny, i ddod â’r sgôr i 20-16 roedd pethau’n edrych yn addawol ac ysbryd y bechgyn wedi codi.
A phan lwyddodd Halfpenny gyda chic gosb i ddod â’r sgor i 20-19 roedd gwên ar wynebau’r Cymry yn y dorf.
Ond, mi roedd capten Awstralia, Pocock, yn parhau i fod yn ddraenen yn ystlys y Cymry. Mi wnaeth y Wallabies daro nôl yn gryf, ac yn y diwedd mi wnaeth eu pwysau ddwyn ffrwyth, gyda McCabe yn sgorio cais a gafodd ei drosi gan Barnes.
Roedd Pocock wedi sicrhau fod bywyd yn anodd iawn i Mike Phillips drwy gydol y gêm. Doedd y Cymry ddim yn medru dadlwytho’r bêl ac roedd eu rhwystredigaeth yn amlwg.
Mi fydd yn rhaid i dactegau Cymru newid yn yr ail brawf. Mae’n rhaid i’r Cymry fod yn fwy clinigol, ac efallai y byddai’n dda o beth iddyn nhw edrych unwaith eto ar eu gêm gicio wnaeth ddim gweithio yn y frwydr hon ym Mrisbane.
Ymlaen yn awr i’r ail brawf ym Melbourne dydd Sadwrn nesaf. Mae’n rhaid cadw’r ffydd, a’r meddiant, er mwyn sicrhau llwyddiant y tro nesaf.