Ar ôl i’r cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri ddod i ben neithiwr, mae’r Urdd wedi cyhoeddi pwy fydd yn cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru eleni.

Yr enillwyr yn yr Eisteddfod fydd yn cystadlu am yr Ysgoloriaeth fydd Cerian Phillips o Aelwyd Hafodwennog, Gorllewin Myrddin (Dawns Werin Unigol i Ferched Bl10 a dan 25), Huw Ynyr Evans, Adran Bro Idris, Meirionnydd (Unawd Cerdd Dant 19-25 ac Unawd 19-25)), Lois Eifion, Aelwyd JMJ, Eryri (Cyflwyno Alaw Werin Unigol 19-25 ac Unawd Offerynnol 19-25)), Glesni Euros, Aelod Unigol Cwm Tawe (Llefaru Unigol 19-25),  Ceri Wyn, Aelwyd Llundain (Cyflwyniad Theatrig) a Rachel Lee Stephens, Aelwyd y Drindod, Gorllewin Myrddin (Unawd Sioe Gerdd).

Nod yr Ysgoloriaeth, sy’n werth £4,000, yw meithrin a datblygu talentau rhai o bobl ifanc mwyaf dawnus Cymru.

Enillydd yr Ysgoloriaeth y llynedd oedd y delynores Glain Dafydd o Bentir ger Bangor.