Defaid yn un o sioeau'r gorffennol
Mi gafodd Sioe Dyffryn Ogwen ei chanslo heddiw, y tro cyntaf iddi gael ei chanslo ers ei sefydlu 40 mlynedd yn ôl.

Mi wnaeth swyddogion y Sioe benderfynu neithiwr y byddai’n rhaid ei chanslo oherwydd cyflwr gwlyb lleoliad y Sioe ar gaeau rygbi Dol Dafydd, Bethesda, a bod Afon Ogwen gerllaw yn codi.

“Mi roedd yn siom enfawr, ond mi roedd yn benderfyniad doeth,” meddai Cadeirydd y Sioe, Alwyn Lloyd Ellis.

“Mae’n siom enfawr gan ein bod wedi bod yn paratoi ar gyfer y Sioe am flwyddyn, ac rydym yn wynebu colled ariannol fawr,” esboniodd.

“Mi rydan ni wedi bod yn lwcus efo’r tywydd dros yr holl flynyddoedd ac mae’n drist iawn ein bod wedi gorfod canslo eleni. Ond mi fydd y Sioe yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf, ar yr ail ddydd Sadwrn ym mis Mehefin fel arfer, ac mi wnawn ni obeithio am dywydd gwell. Cawn ddathlu pen-blwydd y Sioe yn yr haul, gobeithio!”

Roedd Ysgrifenyddes y Sioe ac Ysgrifenyddion yr adrannau wedi bod yn brysur ddoe yn cysylltu â darparwyr gystadleuwyr er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw am y sefyllfa ddiweddaraf.

Mi gafodd Sioe Sirol Aberystwyth a Cheredigion hefyd ei chanslo oherwydd y tywydd garw.