Llifogydd yn sgwar Talybont, llun: Hywel Griffiths
Mae’r llifogydd yng Ngheredigion wedi creu anrhefn llwyr, gyda dŵr yn llifo i mewn i gartrefi, a thrigolion yn cael lloches mewn neuaddau ac ysgol.

Mae’r tywydd wedi gwella yn yr ardal erbyn hyn, ond mae ffyrdd yn parhau i fod ar gau.

Y mannau sydd wedi cael eu taro gwaethaf ydi Talybont, Dol-y-bont, Llandre a Phenrynoch.

Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn brysur yn achub gwersyllwyr o feysydd carafanau Riverside yn Llandre ger Aberystwyth, Mill House yn Nol-y-bont a Sea Rivers, yn Ynyslas. Roedd badau achub a hofrenyddion yr RAF wedi cael eu defnyddio yn yr ymdrech i achub pobl. Y gred ydi fod o leiaf 90 o bobl wedi cael eu hachub.

Dywedodd Gwynfryn Evans, sy’n byw yn Llandre, fod y sefyllfa yn ddifrifol iawn yn yr ardal. Roedd y sefyllfa yn arbennig o ddrwg yn Nhalybont, meddai, gan fod dwy afon – yr afonydd Leri a Cheulan –  yn cyfarfod yno.  “Y gred yw bod tirlithriad wedi digwydd uwchben Talybont a bod hyn wedi creu argae,” meddai. “Mi wnaeth hon dorri a achosodd i’r dŵr lifo i lawr i gyfeiriad Talybont.”

Mae priodas oedd i’w chynnal yn Nhalybont heddiw wedi cael ei gohirio hyd nes yfory. Roedd Ceri Jones o fferm Llwyn Glas, Talybont, i fod i briodi Dylan Jones o Bennal heddiw ond fe benderfynwyd y byddai’n rhaid ei gohirio oherwydd difrifoldeb y sefyllfa.

Mae pethau hefyd yn wael yn Aberystwyth. Mae nifer o siopau o dan ddŵr yn cynnwys Morrisons a’r siop B& Q newydd. Mae meddygfa leol hefyd o dan ddŵr, ac mae Ysgol Penglais ar agor er mwyn rhoi lloches i’r rhai sydd wedi cael eu dal gan y dŵr.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi canmol y gwasanaethau brys sydd wedi bod mor brysur ers oriau man y bore.

“Mi wnaeth y rhai oedd yn rhan o’r ymdrech achub yn y meysydd carafanau yn Llandre ymateb yn sydyn a gyda dewrder,” meddai.

“Hoffwn gynnig fy nghefnogaeth iddyn nhw a fy niolchiadau am y ffordd maen nhw wedi cynorthwyo’r trigolion a’r ymwelwyr â’r ardal.

“Dwi’n credu bod y sefyllfa o dan reolaeth. Hoffwn ddiolch yn arbennig i griwiau hofrenyddion Sea King yr RAF, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, criwiau’r badau achub, a badau achub y Gwasanaeth Tân yn Riverside, am eu hymdrechion.

“Dwi’n gobeithio fod pawb yn yr ardal yn ddiogel ac yn ddianaf.”