Sarah Rochira
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn dechrau yn ei swydd  heddiw ac wedi dweud mai ei blaenoriaeth fydd rhoi llais i’r henoed.

Dywedodd Sarah Rochira ei bod hi’n benderfynol o wneud gwahaniaeth i’r henoed yng Nghymru drwy wrando ar beth sydd ei hangen arnyn nhw a rhoi llais iddyn nhw fedru ymgyrchu dros eu hawliau.

Mae hi hefyd yn dwsedu bod angen defnyddio’r cyfoeth a wybodaeth a phrofiad sydd gan bobl hŷn i sicrhau bod ein cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus yn cwrdd â gofynion poblogaeth sy’n heneiddio.

Yn ystod ei hwythnos gyntaf yn y swydd fe fydd Saraj Rochira yn teithio o amgylch i wlad i glywed barn pobl hŷn.

Dywedodd: “Mae gormod o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, yn ynysig, yn wael eu hiechyd, yn wynebu gwahaniaethiad, yn cael eu camdrin ac yn wynebu diffyg dewis a rheolaeth. Mae mynd i’r afael â’r materion hyn yn her i ni i gyd yng Nghymru.”

Mae Sarah Rochira yn olynu’r Comisiynydd Ruth Marks.