Mae S4C wedi lansio ap newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.

Mae’r ap ‘Urdd 2012’ yn darparu’r canlyniadau diweddaraf yn fyw ac yn dilyn yr holl ddigwyddiadau ar y Maes drwy gyfrwng lluniau a fideos.

Cwmni Teledu Avanti sydd wedi creu’r ap, a nhw hefyd sy’n gyfrifol am raglenni S4C o’r ŵyl sy’n cael ei chynnal ym Mharc Glynllifon rhwng 4 a 9 Mehefin.

“Drwy ddefnyddio ap Urdd 2012, mae modd i ffrindiau a rhieni, sydd ddim yn gallu bod ar y maes neu wylio’r cystadlu ar y teledu, fod yn rhan o’r profiad a mwynhau holl hwyl yr ŵyl,” meddai Rhys Bevan, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Avanti.

Mae modd lawrlwytho ap ‘Urdd 2012’ yn rhad ac am ddim ar iPhone, iPod Touch, iPad a dyfeisiadau Android.

Yr arlwy

Bydd hefyd modd gwylio’r cystadlu, y digwyddiadau a’r gweithgareddau o faes Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 ar S4C gyda rhaglenni yn y dydd a gyda’r nos rhwng 3 a 9 Mehefin.

Bydd Nia Roberts, Morgan Jones, Mari Grug, Heledd Cynwal, Trystan Ellis Morris, Lois Cernyw a Tudur Phillips yn cyflwyno’r arlwy.

O 10 o’r gloch bob bore, bydd rhaglenni byw o’r Maes yn cynnwys sylw i brif ddefodau’r dydd. Gyda’r nos, bydd modd gweld uchafbwyntiau’r diwrnod yn ogystal â darllediadau byw o gystadlaethau’r hwyr yn y pafiliwn ar rai nosweithiau.

Yn ogystal â’r rhaglenni teledu, bydd lluniau a fideos ar y wefan – s4c.co.uk/urdd – yn cynnwys y perfformiadau a ddaeth yn gyntaf, ail a thrydydd ym mhob cystadleuaeth.

Mae hefyd modd derbyn canlyniadau’r rhagbrofion a’r llwyfan yn rhad ac am ddim drwy decstio URDD a rhif y gystadleuaeth at 66663.