Mae ffigurau ar ddwy ochr refferendwm Ewropeaidd Iwerddon wedi cyhoeddi mai’r ymgyrch ‘Ie’ sydd wedi ennill.
Mae Declan Ganley, sylfaenydd y garfan Libertas a ymgyrchodd yn llwyddiannus yn Iwerddon yn erbyn cytundeb Ewropeaidd Lisbon yn 2008, wedi derbyn fod y garfan Ie wedi ennill.
Ar yr ochr arall, dywedodd Richard Bruton, Gweinidog Swyddi yn y Llywodraeth Glymblaid, ei fod yn hyderus fod y bleidlais Ie yn “y 50au uchel.”
Roedd llai na hanner yr etholwyr wedi pleidleisio yn y refferendwm ar y cytundeb ariannol Ewropeaidd.
Roedd yr ymgyrch Ie wedi rhagweld buddugoliaeth ond yn gofidio fod nifer isel y pleidleiswyr yn mynd i arwain at ganlyniad agos.
Iwerddon yw’r unig wlad yn Ewrop sy’n cynnal refferendwm ar y cytundeb gan ei fod yn amod o fewn cyfansoddiad Iwerddon i adael i’r cyhoedd bleidleisio ar benderfyniadau mawr Ewrop.
Roedd y cytundeb ariannol yn mynd i ddod i rym beth bynnag oedd y canlyniad heddiw yn Iwerddon, ond mae Brwsel wedi bod yn gobeithio am bleidlais o hyder yn yr Undeb Ewropeaidd.