Prifysgol Casnewydd
Mae Prifysgol Cymru, Casnewydd wedi penodi Is-ganghellor newydd yn sgil ymadawiad Dr Peter Noyes fis diwethaf.
Bydd yr Athro Stephen Hagen yn cymryd yr awenau wrth i’r brifysgol drafod uno gyda phrifysgolion eraill yn ne Ddwyrain Cymru.
Mae Stephen Hagen yn gyn-ddirprwy is-ganghellor â chyfrifoldeb am faterion academaidd yn y brifysgol.
Roedd Dr Peter Noyes wedi gwrthwynebu cynlluniau i uno’r brifysgol â Phrifysgol Morgannwg a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Dywedodd y byddai yn well ganddo weld prifysgol newydd yn cael ei chreu na gorfod uno prifysgolion oedd eisoes yn bodoli, ond ei fod yn gadael am resymau personol.
Wrth dderbyn y swydd dywedodd Stephen Hagen ei fod yn cefnogi uno Prifysgol Casnewydd â phrifysgolion eraill yr ardal.
“Rydw i wrth fy modd yn cymryd y swydd ac fe fyddaf yn sicrhau bod Casnewydd yn ymroi yn llwyr tuag at ddatblygu prifysgol newydd yn ne ddwyrain Cymru,” meddai.
“Fe fydd y brifysgol newydd o fudd i’r rhanbarth cyfan, ac yn helpu i ail-adeiladu’r economi lleol.”