Bethan Jenkins
Mae’r Aelod Cynulliad Bethan Jenkins wedi ei hamddiffyn ei hun ar ôl methu dau gyfarfod ar ymweliad swyddogol ag Iwerddon.

Dywedodd Comisiwn y Cynulliad bod Bethan Jenkins yn un o bump AC fu’n cynrychioli senedd Cymru yng Nghynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon ganol mis Mai.

Ond nid oedd Bethan Jenkins yn bresennol mewn dau gyfarfod, gan gynnwys cyfarfod un o’r pwyllgorau y mae hi’n aelod ohono.

Roedd y daith yn cynnwys llety yng ngwesty moethus y Shelbourne Hotel, diodydd gydag Arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins, a phryd o fwyd yng Nghastell Dulyn.

Mewn datganiad dywedodd Bethan Jenkins nad oedd hi’n ystyried fod angen mynd i un o’r cyfarfodydd, a’i bod hi wedi methu’r ail oherwydd materion etholaethol.

Ond dywedodd Plaid Cymru fod y mater wedi ei drafod yn fewnol a bod disgwyl i ACau sydd ar ymweliadau o’r fath gyflawni eu holl ddyletswyddau pan oedd hynny’n bosib.

Ychwanegodd Comisiwn y Cynulliad eu bod nhw’n talu costau teithio ac aros yr ACau a bod disgwyl iddyn nhw fynd i bob cyfarfod yr oedden nhw wedi eu gwahodd iddyn nhw.

“Roedd Bethan Jenkins yn un o gynrychiolwyr y Cynulliad yn y cyfarfodydd diweddaraf a gynhaliwyd yn Nulyn ar 13 ac 15 Mai,” meddai’r Comisiwn.

“Roedd y cyfarfod yn trafod, ymysg materion arall, masnach drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru, sydd yn hollbwysig i’n dyfodol economaidd.

“Mae’r Comisiwn yn ymwybodol nad oedd Bethan Jenkins wedi mynd i ddau o’r cyfarfodydd, gan gynnwys cyfarfod pwyllgor y mae hi’n aelod ohono.

“Mae’r Llywydd Rosemary Butler wedi cyfeirio’r mater at grŵp plaid yr Aelod. Ni fyddai yn addas i’r Comisiwn gynnig unrhyw sylw pellach.”

Dywedodd Bethan Jenkins ei bod hi wedi cyflawni llawer yn ystod yr ymweliad, gan gynnwys cyfarfodydd yn ei hamser ei hun.

“Cefais y fraint o gael mynd i gyfarfod  Cynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon yn Nulyn, ac nid yn unig yr oeddwn i wedi cymryd rhan yn y Cyfarfod Llawn ar y dydd Llun, ond hefyd wedi cynnal nifer o gyfarfodydd defnyddiol ag aelodau seneddau eraill oedd yn cymryd rhan, gan gynnwys yn fy amser fy hun fore dydd Sul cyn dechrau’r digwyddiad,” meddai.

“Roeddwn i wedi ymddiheuro o flaen llaw am beidio â chymryd rhan mewn cyfarfod hanner awr o hyd fore dydd Llun am 8.30am.

“Roedd hynny am nad oeddwn i wedi bod yn rhan o’r ymchwiliad a oedd dan drafodaeth.

“Serch hynny roeddwn i yn fy sedd yn barod am ddechrau’r cyfarfod llawn yn fuan wedyn, ac fe gyfrannais i’n llawn at y trafodaethau a ddechreuodd am 9.30am.

“Fore dydd Mawrth cefais fy ngalw at y ffon cyn dechrau’r cyfarfod a threuliais weddill y bore yn gweithio ar y mater, a oedd yn ymwneud â fy etholaeth.

“Roedd yn fraint cael mynd i Ddulyn, ond mae anghenion fy etholwyr yn dod gyntaf bob tro.

“Nid yw’n syndod fy mod i wedi treulio amser yn ystod taith deuddydd yn mynd i’r afael â materion etholaethol.”