Jeremy Hunt
Fe fydd y Blaid Lafur yn gorfodi pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin er mwyn galw am ymchwiliad annibynnol i weld a yw’r Ysgrifennydd Diwylliant wedi torri cod y gweinidogion.

Llwyddodd Jeremy Hunt i gadw gafael ar ei swydd neithiwr, wedi i Stryd Downing ddweud fod ei dystiolaeth o flaen Ymchwiliad Leveson yn dangos ei fod wedi “gweithredu yn iawn”.

Mae dan bwysau am y modd yr aeth i’r afael â chynnig cwmni News Corporation am reolaeth lawn o BSkyB.

Ond cyhoeddodd ysgrifennydd diwylliant yr wrthblaid, Harriet Harman, y byddai’r Blaid Lafur yn cynnal pleidlais pan mae ASau yn dychwelyd i San Steffan.

Mae Llafur yn credu bod Jeremy Hunt wedi camarwain y Senedd ddwywaith wrth drafod cynnig News Corporation, ac y dylai hefyd gymryd cyfrifoldeb am weithredoedd ei ymgynghorydd Adam Smith.

Bu’n rhaid i hwnnw roi’r gorau i’w swydd ar ôl cyhoeddi e-byst yn dangos ei fod yn cyfathrebu’n gyson â lobiwr News Corporation, Fred Michel.

“Mae Jeremy Hunt wedi torri cod y gweinidogion ac wedi camarwain y Senedd,” medai Harriet Harman.

“Nid yw’n dderbyniol bod y rheolau yma wedi eu torri ac fe fyddwn ni’n galw pleidlais gan fynnu bod ymchwiliad.

“Hyd yn oed os yw David Cameron yn credu ei fod yn dderbyniol bod gweinidog yn torri rheolau yr oedd ef ei hun wedi eu creu, dydyn ni ddim ac fe fyddwn ni’n galw pleidlais.”