Brynle Williams
Mae cwest i farwolaeth y cyn-Aelod Cynulliad Brynle Williams heddiw wedi cofnodi rheithfarn naratif.

Bu farw’r amaethwr, a fu’n Aelod Gogledd Cymru, ym mis Mawrth y llynedd ar ôl brwydr hir yn erbyn canser. Roedd yn 62 oed.

Nid yw rheithfarn naratif yn rhoi’r bai ar unrhyw unigolyn am y farwolaeth, ond yn Llys Ynadon Wrecsam dywedodd Crwner gweithredol gogledd Ddwyrain Cymru, John Gittins, ei fod yn “siomedig” na chafodd Brynle Williams y gofal gorau gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Clywodd y cwest dystiolaeth gan weddw Brynle Williams, Mary, ynghyd â’i feddyg teulu, y patholegydd Mark Atkinson a Dr Matthew Makin, Pennaeth Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Roedd John Gittins wedi dweud mai rôl yr ymchwiliad oedd edrych i mewn i’r amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth Brynle Williams, nid i benderfynu os oedd unrhyw un ar fai.