Bydd y Fari Lwyd, un o draddodiadau hynaf Cymru, yn cael ei hatgyfodi ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni.
Dywedodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri a fydd yn ariannu’r dathliad mai’r nodd fydd rhoi cyfle i bobl Cymru brofi eu treftadaeth a diwylliant trwy’r hen arfer hwn.
Cynhelir y dathliadau diwylliannol o’r 17eg ganrif ar safle Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Ngholeg Llandrillo, Campws Glynllifon ger Caernarfon.
Bydd i Fari Lwyd i’w gweld ddydd Mercher nesaf, 6 Mehefin, am 1.30pm wrth i geffylau Mari deithio drwy safle’r ŵyl.
Mae’r Fari Lwyd, sef yr Hen Geffyl Llwyd, yn ddathliad Blwyddyn Newydd traddodiadol i nodi diwedd dyddiau tywyll y gaeaf ac i groesawu’r gwanwyn.
Ar un adeg fe’i dathlwyd ledled Cymru, ond mae bellach yn draddodiad a gysylltir â de a de ddwyrain y wlad.
Gyda chyllid o £6,700 gan y gronfa loteri, mae Traddodiadau Cerddorol Cymru Cyf (trac) wedi lansio prosiect blwyddyn o hyd i geisio adfywio’r traddodiad ledled y wlad.
Sgerbwd pac-fflat
Bydd pobl ifanc yn derbyn adnoddau a gweithdai ar arferion traddodiadol y Fari Lwyd, a hefyda model pac-fflat o geffyl Mari Lwyd, er mwyn delio â’r broblem o gael gafael ar ben sgerbwd ceffyl ar gyfer y traddodiad.
Bu Traddodiadau Cerddorol Cymru Cyf, sydd eisoes wedi dechrau gweithredu’r prosiect, yn ymweld ag Ysgol Gynradd Nefyn yn ddiweddar ble buont yn cynnal gweithdai ac i baratoi ceffylau Mari Lwyd y bydd plant ysgol yn eu defnyddio wrth gymryd rhan yn y perfformiad yn yr Urdd.
“Rydym wedi bod yn ffodus iawn i fod yn un o’r ysgolion cyntaf i gymryd rhan ym mhrosiect y Fari Lwyd,” meddai Gwawr Howel, athrawes ddosbarth yn Ysgol Gynradd Nefyn.
“Yn ogystal â chefnogi’r cwricwlwm, fe gipiodd y gweithdai ymarferol ddychymyg y plant a datblygu sgiliau newydd a gwell dealltwriaeth o’u treftadaeth a diwylliant.”
‘Edrych ymlaen’
Dywedodd Danny Killbride, cyfarwyddwr Traddodiadau Cerddorol Cymru, bod y cyllid wedi’u galluogi i ledaenu’r gair am y Fari Lwyd drwy Gymru.
“Yn ôl yn 2009, buom yn gweithio gyda chymuned Cas-gwent i sefydlu grŵp Mari Lwyd, ac ers hynny mae cymunedau eraill wedi cysylltu â ni’n rheolaidd hefyd yn awyddus i ailgynnau’r traddodiad cyffrous hwn,” meddai.
“Rydym wir yn edrych ymlaen at ein perfformiad yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd wythnos nesaf ac yn gobeithio y bydd yn denu’r torfeydd ac ysgogi diddordeb yn nefod arbennig y Fari Lwyd.
“Trwy gydol y prosiect, byddwn yn ymweld ag ysgolion a grwpiau cymunedol ledled Cymru, gan ddarparu adnoddau a gwersi ar draddodiadau y Fari Lwyd. Gobeithiwn y bydd y sgiliau hyn yn cael eu pasio ymlaen rhwng grwpiau cymunedol wedyn, gan ehangu gwybodaeth ac arfer traddodiad y Fari Lwyd ledled Cymru.”