Fe fydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau un o gyfarfodydd mawr y calendr rasio mynydd, Ras Ryngwladol yr Wyddfa.
Disgwylir i 600 o redwyr fod yn bresennol i herio’r gamp o redeg 10 milltir, o Gae’r Ddol ar lannau Llyn Padarn i begwn yr Wyddfa ac yna i lawr eto.
Mae’r ras nawr yn rhan o’r Skyrunner World Series sydd wedi hybu statws y ras ac wedi denu nifer o redwyr rhyngwladol o safon uchel i gystadlu.
Dywedodd trefnydd y ras, Stephen Edwards: ‘‘Ry’n ni wedi treio bob amser i gael y gorau yma i gystadlu ond mae bod yn rhan o’r Skyrunner World Series wedi rhoi hwb bwysig i’r ras.
“Rydym yn hynod falch hefyd bod y ras yn mynd i fod unwaith eto ar y teledu yn enwedig gan fod Ras yr Wyddfa yn eiconig i Gymru a hefyd o gofio ein bod wedi cael ras mor gyffrous y llynedd. Mae’r cydweithrediad ardderchog y’n ni’n cael gyda Pharc Cenedlaethol Eryri a Rheilffordd Eryri yn hwyluso pethau i’r dyrfa ac i’r cystadleuwyr,’’ meddai Stephen Edwards, trefnydd y ras.
Disgwylir i enillwyr y llynedd gystadlu eto’r flwyddyn yma – Andi Jones enillodd ras y bechgyn am y 5ed tro a Pippa Jackson oedd enillydd ras y merched.
Yn cystadlu yn eu herbyn bydd rhedwyr o Ffrainc, Canada, Yr Eidal, Rwsia a Sweden ymhlith nifer o wledydd eraill.
Yn ras y merched bydd dau gystadleuydd newydd sef Emile Forsberg o Sweden a Zhanna Vokueva o Rwsia ac, yn ôl Stephen Edwards, yn debygol o dorri record neu ddwy.
Bydd Ras yr Wyddfa yn cael ei darlledu am 9 o’r gloch, nos Sul 22 Gorffennaf ar S4C.