Mae’r Cynulliad wedi paratoi anrheg ar gyfer y Frenhines er mwyn nodi ei Jiwbilî Ddiemwnt ddydd Mawrth.
Mae’r sgrôl sydd wedi ei chomisiynu yn arbennig ar gyfer yr achlysur yn cynnwys neges gan lywydd y Cynulliad, Rosemary Butler.
Ar ran y Cynulliad mae hi’n llongyfarch y Frenhines ar “60 mlynedd o wasanaeth ymroddedig”.
Mae modd gweld y sgrôl ddwyieithog fan hyn. Fe fydd yn cael ei arddangos yn y Senedd nes 15 Mehefin.
Cafodd ei gynllunio a’i greu gan y ceinlythrennydd o Gaerfyrddin, Ieuan Rees.
“Mae’n briodol bod pobol Cymru yn gwerthfawrogi’r holl waith caled y mae’r Frenhines wedi ei wneud dros Gymru yn ystod ei 60 mlynedd ar yr orsedd,” meddai Rosemary Butler.
“Rydw i’n gwybod y bydd cymunedau ledled Cymru yn gwneud sawl peth er mwyn nodi carreg filltir ein brenhines.
“Rydw i’n credu ei bod yn gywir bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi’r jiwbilî yma ar ran pawb yng Nghymru.”