Ian Stoutzker Llun: Coleg Cerdd a Drama
Mae casgliad o luniau modern gwerthfawr sydd wedi cael eu cyflwyno i wledydd Prydain gan ddyn o dras Gymreig yn debyg o gael eu dangos yng Nghaerdydd yn fuan.
Dyna addewid pennaeth oriel y Tate ar ôl iddyn nhw dderbyn casgliad o naw llun gan ddyn sydd â’i wreiddiau yn Nhredegar.
Dyma ail rodd fawr gan Ian a Mercedes Stoutzker – y llynedd fe roeson nhw £500,000 at godi neuadd newydd yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.
Mae’r lluniau’n cynnwys rhai gan rai o arlunwyr enwoca’r ganrif ddiwetha’, gan gynnwys David Hockney, Lucian Freud a Jacob Epstein.
Cysylltiad Tredegar
Mae Ian Stoutzker bellach yn byw yn Awstria ond roedd wedi treulio peth o’i blentyndod yn Nhredegar ac roedd y rhodd i’r coleg yn enw ei fam, Dora, a gafodd ei geni a’i magu yno.
“Mae gan Ian gysylltiad arbennig gyda Chymru ac efallai y bydd rhai o’r lluniau’n cael eu gweld yng Nghaerdydd cyn bo hir iawn,” meddai Cyfarwyddwr Tate Britain, Syr Nicholas Serota.
Mae’r dyn busnes hefyd yn gerddor ac ef oedd un o sylfaenwyr y mudiad Cerdd Byw Nawr.