Cafodd dyn yn ei 50au ei arestio gan heddlu’r Gogledd heddiw am fod â gwn ffug ac arf bygythiol yn ei feddiant.

Cafodd yr heddlu eu galw i Neuadd y Dref, Wrecsam am 10.12am heddiw yn dilyn adroddiadau bod dyn yn ymddwyn yn amheus. Cafodd pobl eu symud o Neuadd y Dref a’r Llyfrgell gyfagos fel mesur diogelwch a bu swyddogion yr heddlu yn amgylchynu’r adeilad.

Cafodd y dyn  ei arestio yn ddiweddarach. Roedd wedi gadael pecyn yn Neuadd y Dref a gafodd ei archwilio gan swyddogion yr Adran Ffrwydron ond cafwyd cadarnhad nad oedd yn beryglus.

Dywedodd yr Arolygydd Lleol Alun Hughes: “Mae dyn lleol wedi’i arestio a bydd yn cael ei gyfweld yn ddiweddarach heddiw.

“Drwy gydweithio gyda’n partneriaid yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru roedd modd i ni sicrhau bod yr adeilad yn cael ei wagio a’i ddiogelu yn y modd mwyaf effeithiol posibl.

“Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu cydweithrediad a’u hamynedd. Ni chafwyd unrhyw anafiadau ac ni amharwyd ar yr ardal am gyfnod rhy hir.”