Cyrff y meirw yn dilyn y gyflafan yn Houla
Mae’r Almaen, yr Eidal a Sbaen wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw’n diarddel llysgenhadon Syria ar ôl i Brydain, Ffrainc, Awstralia a Canada wneud yr un peth.

Mae’n dilyn y gyflafan yn nhref Houla ddydd Gwener ddiwethaf pan gafodd mwy na 100 o bobl eu lladd, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn wragedd a phlant.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig roedd teuluoedd wedi cael eu saethu’n farw yn eu cartrefi.

‘Dim croeso i gynrychiolwyr Syria’

Mae’r camau diweddaraf yn cynyddu’r pwysau ar Ddamascus yn sgil yr ymosodiad yn Houla – un o’r ymosodiadau mwyaf gwaedlyd ers i’r trais ddechrau 15 mis yn ôl.

Yng Nghanada, dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor John Baird nad oedd croeso i gynrychiolwyr Syria yn y wlad “tra  bod eu meistri yn Namascus yn parhau â’u gweithredoedd erchyll”.

Mae’r llysgennad rhyngwladol Kofi Annan wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda’r Arlywydd  Bashar Assad yn Namascus heddiw.