Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno mesur seneddol newydd y flwyddyn nesaf fydd yn gorfodi pob busnes sy’n delio â bwyd i arddangos sgorau hylendid bwyd ar eu safleoedd.
Os bydd y mesur yn cael ei basio, dyma fydd y cynllun gorfodol cyntaf o’i math yn y Deyrnas Unedig.
Mi fydd y cynllun gorfodol newydd yma yn effeithio ar fwytai, siopau tecawê ac archfarchnadoedd yng Nghymru.
Bydd y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) yn rhoi mwy o wybodaeth i ddefnyddwyr ynghylch ble maen nhw’n bwyta neu’n prynu bwyd.
Mae cyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd gorfodol yn un o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.
O dan y cynllun hwn, bydd busnesau’n derbyn sgôr rhwng 0 a 5. Mae sgôr o 0 yn golygu bod angen gwelliant ar frys, a sgôr o 5 yn golygu hylendid o safon uchel.
Bydd y sgôr yn seiliedig ar feini prawf sy’n cynnwys safonau trin bwyd – fel sut mae’r bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio, ei gadw’n oer a’i storio, cyflwr y safle a’r gweithdrefnau sydd yn eu lle i sicrhau bod bwyd yn cael ei gynhyrchu’n ddiogel.
Bydd yn ofynnol i fusnesau arddangos eu sgôr mewn man amlwg, fel y fynedfa, neu wynebu dirwy.
Mi fydd y Ddeddf hefyd yn cynnwys busnesau sy’n cyflenwi bwyd i fusnesau eraill.
Bydd dyletswydd newydd ar fusnesau bwyd i ddweud beth yw eu sgôr hylendid bwyd wrth gwsmeriaid sy’n eu holi. Bydd gwrthod gwneud hynny’n drosedd. Bydd hyn yn galluogi pobl â nam ar eu golwg sy’n gwneud ymholiadau dros y ffôn i gael gwybod beth yw sgôr y busnes cyn ei ddefnyddio.
Meddai’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths,“Bydd y Bil yn cyflwyno mesur iechyd cyhoeddus syml ond effeithiol a fydd yn grymuso defnyddwyr ac yn helpu i wella safonau hylendid bwyd.
“Mae hylendid bwyd yn hanfodol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cynllun sgorio’n helpu i godi safonau ac yn sicrhau bod defnyddwyr a busnesau’n elwa.”
Mae chef mewn tŷ bwyta ger Bangor wedi croesawu’r cynllun gorfodol. Meddai Pat Jones o Tŷ Golchi, “Mi roedden ni wedi penderfynu bod yn rhan o’r cynllun gwirfoddol sy’n bodoli eisoes gan ein bod yn awyddus i wneud popeth yn iawn pan wnaethon ni agor. Mi wnaethon ni dderbyn sgôr o 5. Mi roedden ni’n falch iawn o hynny, yn naturiol. Mi rydan ni’n croesawu’r bwriad i gael cynllun gorfodol gan fod cael gwybod am safon hylendid yn rhoi hyder i’r cwsmeriaid. Ar hyn o bryd, mi rydan ni’n cael ein harolygu bob 18 mis.”
Fel yn achos y cynllun gwirfoddol presennol, bydd amlder arolygiadau’r cynllun newydd yn seiliedig ar asesiad o’r risg i’r defnyddiwr, fel y math o fusnes bwyd, natur y bwyd a maint y busnes.
Gall busnesau apelio yn erbyn eu sgôr os ydyn nhw’n eu hystyried yn anghyfiawn neu’n annheg. Gallan nhw hefyd ofyn am arolygiad ail-sgorio, a thalu amdano, os ydyn nhw wedi cyflawni’r gwelliannau sy’n ofynnol.
Mae’r ddeddfwriaeth yn bwriadu cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig o £200 am droseddau fel peidio ag arddangos y sgoriau, gyda gostyngiad am dalu’r ddirwy’n gynnar. Mae pwerau hefyd i erlyn, gydag uchafswm dirwy o £1000 yn cael ei gynnig.