Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymchwilio i achos tân mewn tŷ ar gyrion Llanrug brynhawn Gwener.

Cafodd diffoddwyr eu galw yno tua hanner awr wedi deuddeg yn y prynhawn a bu’r heddlu yn rheoli traffig ar hyd y ffordd o Lanberis i Gaernarfon am oriau.

Chafodd neb ei anafu yn ystod y digwyddiad.