Enw: Janis John

Dyddiad geni: 15/06/1970 (Roedd cân Mungo Jerry, ‘In the Summertime’, yn rhif 1 yn y siartiau)

Man geni: Ysbyty Dewi Sant, Bangor


“Yn tyfu i fyny yn nyddiau Morecambe & Wise, Summerside Specials a Royal Variety a.y.b., roeddwn wrth fy modd hefo’r canu a dawnsio. Yr unig beth dw i’n cofio meddwl fysa yn fy ngwneud yn hapus fyddai gweithio fel actor ar lwyfan neu ddawnsiwr. Ond, yn anffodus, doedd genna’i ddim llais canu, rhythm, talent na hyder!”

Cafodd Janis John, sy’n gweithio fel Ymgynghorydd Cwsmeriaid i Trafnidiaeth Cymru, ei magu yng Nghaernarfon. Ac mae bywyd wedi bod yn drên sgrech o emosiynau iddi; taith sydd wedi profi’n ysblennydd ar brydiau, ond wedi ei llorio droeon eraill.

“Un o’m hoff atgofion o’m plentyndod yn ystod y ’70au yw’r hafau poeth yn treulio gwyliau ysgol ar lan môr Dinas Dinlle hefo picnics cartref Mam, yn cicio pêl a dysgu nofio yn y tonnau oer hefo llaw gref fy nhad dan fy mol!”

Mae’n disgrifio’i hun erbyn hyn fel mam, chwaer, llenor, ffeminydd, thalassophile (rhywun sy’n caru’r môr), teithiwr, person sy’n caru anifeiliaid, ac fel bardd a goroeswr. A’r olaf o’r rheiny am reswm da. Ar ôl colli ei rhieni, aeth drwy dor-priodas anodd, profi genedigaeth drawmatig, cyn dioddef o sawl anhwylder fyddai bron yn ei llorio.

‘Chwalu’

“Chwalodd ein bywydau ni un dydd Sul distaw yn 1992, pan aeth Dad i ymweld a’i fam fel pob dydd Sul arall. Fe aeth allan drwy’r drws yn gwneud jôcs a chwerthin. Ond ddaeth o ddim yn ôl – mi gafodd ddamwain car a dioddef hemorrhage ar yr ymennydd, ac mi gollon ni Dad yn oriau man Awst 3, ryw saith awr ar ôl ei ddamwain. Roedd Mam yn 45 oed, a finnau a fy mrawd yn ein hugeiniau cynnar. Doedd bywyd byth ’run peth wedyn.”

Mi briododd am y tro cyntaf yn 24 oed, a chael dau o blant – Miriam Elen (29, wedi’i henwi ar ôl ei dwy nain) a William John (26, wedi’i enwi ar ôl ei thad a llystad ei gŵr). Ond roedd genedigaeth William yn drawmatig, gyda heriau meddygol.

“Ganwyd William yn las ac yn farw, ac achos bod ei fraich tu ôl i’w gefn a’r cord o gwmpas ei wddf, fe anafwyd y nerfau yn ei fraich dde. Fe’i dadebrwyd gan y meddygon, ond fe greodd yr anaf newid byd am flynyddoedd. Fe effeithiwyd pawb yn y teulu, yn cynnwys ei chwaer fach oedd yn gorfod cymryd y sedd gefn weithiau oherwydd cymaint o apwyntiadau meddygol a chyfreithiol oedd gennym ni.”

Yn dilyn hyn, dioddefodd Janis flynyddoedd o boen cronig a chafodd ddiagnosis yn ddiweddarach o endometriosis. Yn dilyn blynyddoedd o boen ddychrynllyd a “methu bod y fam” yr oedd hi eisiau bod i’w phlant, meddai, penderfynodd gael triniaeth hysterectomi yn 2003, yn 32 oed – a sbardunodd hyn, yn ei dro, y menopos.

“Hefyd yn ystod y cyfnod anodd yma, tra roedd William dal yn fabi ac yn derbyn un llawdriniaeth ar ôl llall ar ei fraich, ynghyd â ffisio a.y.b., fe gafodd eu tad ddiagnosis o gancr. Mae’n saff dweud fod diwedd y 90au ychydig o blur i mi efo dau o blant o dan dair, salwch cronig, gŵr hefo cancr, a babi i mewn ac allan o’r ysbyty a finnau ddim yn dreifio.”

Yn dilyn yr holl straen a’r heriau, mae’n sôn i’w phriodas dorri i lawr, gydag ysgariad i ddilyn. Am y chwe blynedd nesaf, edrychodd ar ôl ei phlant gyda help ei mam. Ond yn ddiarwybod iddi ar y pryd, roedd cyfnod hyd yn oed dywyllach i ddilyn.

“Yn 2006, fe gawson ni’r newyddion erchyll fod cancr ar Mam, ac fe symudodd i aros hefo ni wrth iddi dderbyn triniaeth. Pan aeth i Ysbyty Fazakerley yn Lerpwl am lawdriniaeth i dynnu’r tiwmor, roedd yn amser ofnus i bawb. Er hyn, doedd ei phrognosis ddim yn terminal, ac mi oeddwn i’n obeithiol. Ond ar ei phenwythnos olaf yn yr ysbyty, a hynny cyn dod adref, cafodd drawiad catastroffig ar y galon, ac fel Dad – oedd yma un munud, a ddim y nesaf – roedd hithau hefyd wedi ein gadael yn ddirybudd.”

Doedd dim amdani, felly, ond dechrau newydd. Fe ailbriododd cyn symud i Glynnog i weithio, magu teulu a chreu cartref. Ond yn 2011, wrth weithio yng Nghaernarfon, dechreuodd deimlo yn anarferol o flinedig. Am y bum mlynedd nesaf, dirywiodd ei chyflwr nes iddi dderbyn diagnosis o ME (Myalgic Encephamyolitis) yn 2016, a gorfod stopio gweithio.

Gorchfygu trawma

Mae Janis yn dweud ei bod wedi dysgu “llawer” amdani ei hun bryd hynny, gan ddod i ddeall ei phersonoliaeth yn well.

“Roedd rhaid i mi frwydro yn galed i ailweirio’r ymennydd a’m patrymau meddwl wedi’r holl drawma. Yn araf deg mi ddechreuais ailadeiladu fi fy hun o’r tu mewn, yn cynnwys edrych ar ôl fy iechyd corfforol a meddyliol.

“Fe newidiais ddegau o flynyddoedd o batrymau drwy fynychu cyrsiau CBT a Mindfulness. Dechreuais ddeall fy mod wedi bod yn ymdopi hefo meddwl eithaf bregus fy holl oes, a dim ond fi fasa’n gallu newid hynny. O’r pwynt yma, mi estynnais allan am help a chefnogaeth, a dw i heb stopio ers hynny.”

Un pleser mae Janis wastad wedi ei gael mewn bywyd yw ysgrifennu, meddai. Mae’n ysgrifennu barddoniaeth a blogiau, ac yn ystod y cyfnod clo mi greodd dudalen ar Facebook a safle o’r enw My Beautiful Tired Mind. Roedd yn ffordd o “ymestyn allan at eraill” oedd ar siwrne debyg, ond ddim yn siŵr ble i droi am gefnogaeth, meddai.

Erbyn hyn, mae’n cymryd pleser mawr yn nofio yn y môr. Mae’r môr yn gysur i’w henaid, meddai, ac wedi bod yn gysur o ddyddiau ei phlentyndod wrth gofio atgofion llawn o law gref ei thad o dan ei bol pan ddechreuodd nofio. A dyna ble mae’r thalassophile yn dod i mewn; gair am unigolyn sy’n caru’r môr a’r cefnfor. Mae hefyd wrth ei bodd yn cerdded ei chi Bonnie, French Bulldog, ar draethau lleol ar ffin Pen Llŷn.

“Erbyn hyn, mae’r nyth yn wag, a chan ’mod i ar fy mhen fy hun, mae Bonnie yn llythrennol yn ‘gi cefnogol’ i mi, y trydydd plentyn na chefais! Dwn i’m be’ fyswn wedi gwneud yn y blynyddoedd diwethaf yma heb y bwndel egnïol, clyfar ac empathetig yma.”

Mae Bonnie yn ei gorfodi i gerdded pan fydd ei hysbryd yn isel, ac yn ei helpu hefyd i “godi o’r gwely ac i wynebu’r diwrnod newydd” pan fydd “popeth yn teimlo’n ormod”.

Un o’i diddordebau eraill yw “darllen am ferched cryf” sydd wedi newid y rheolau, fel Frida Kahlo a Maya Angelou. ‘Still I Rise’ gan Angelou yw ei hoff ddarn o farddoniaeth.

Petai’n cael treulio diwrnod arbennig yng nghwmni unrhyw un, yn fyw neu’n farw, ei thad fyddai hwnnw.

“Pan gollais Dad yn 22, roeddwn yn anaeddfed, weithiau yn teimlo bod bywyd wedi bod yn annheg, ’mod i ddim wedi cael nabod Dad fel oedolyn, hynny yw y ‘fi’ yn oedolyn. Doeddwn i ddim yn nabod y dyn, y gŵr bonheddig, y jocar. Doedd hyn erioed amlycach na phan dderbyniais lythyrau oedd wedi’u colli gan gydweithwyr a ffrindiau yn mynd yn ôl flynyddoedd, yn siarad am ddyn doeddwn i ddim yn ei adnabod. Arwr oedd wedi cyffwrdd eu bywydau. Mi faswn i wedi licio sgwrsio hefo Dad, ar yr un lefel – a gofyn iddo am ei fywyd ai obeithion.

“Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi fy mlino yn lân, ond mae rhywbeth eithaf cyffrous am gael dechrau tudalen newydd yn fy oed i.

“Welodd Mam na Dad eu 60au. Dw i yn benderfynol o wneud fy rhai i yn flynyddoedd gorau fy mywyd. Mae’r plant yn hapus ac wedi setlo erbyn hyn, a finnau mor falch ohonyn nhw ac yn eu caru i dragwyddoldeb a thu hwnt – ond teitl y cyfnod nesa’ ydi ‘My Time!’.