Bu miloedd yn mwynhau’r dathliadau wrth i Ŵyl Triban ddychwelyd am y trydydd tro i gloi Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn ar benwythnos cynta’r mis…

Ers 2022, pan oedd yr Urdd yn dathlu ei ganmlwyddiant, mae’r ŵyl yn cynnig y cyfle i weld rhai o geffylau blaen y sîn roc Gymraeg a dod i nabod wynebau a lleisiau newydd.

Rhai o’r diweddaraf i ymuno â’r sîn ond sy’n brysur yn gwneud enwau i’w hunain fu’n chwarae yw’r bandiau ifanc o Gaerdydd, Ble? a Taran.