Portread o Hywel Trewyn

Wedi 40 mlynedd a mwy ym myd newyddiaduraeth, mae gohebydd sydd wedi gweld ei straeon ar flaen y Daily Star wedi newid trywydd.

Hywel Trewyn yw Swyddog Cyfathrebu newydd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru, a’i amcan yw lledaenu’r gair am waith y gymdeithas.