Hybu cwrw a chynnyrch Cymreig yw bwriad bar newydd sydd wedi agor yn y gogledd.

Ac mae’r tri sy’n rhedeg Jac y Do yng Nghaernarfon yn paratoi i agor bragdy yn y dref ymhen yr ychydig fisoedd nesaf hefyd. Gweledigaeth Non Edwards, sy’n rhedeg bar Jac y Do yn hen Glwb y Ceidwadwyr gyda’i phartner, Dei Jones, a Sïan Astley, oedd y fenter.