Undeb y GMB
Merched yw mwyafrif y gweithwyr yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban bellach.

Yn ôl ymchwil diweddar gan undeb y GMB, merched yw 51% o weithlu Cymru, a Gwynedd, lle mae 55% o’r gweithlu’n ferched, yw’r sir gyda’r ganran uchaf trwy Brydain i gyd. Mae Môn a Sir Benfro hefyd ymysg y deg ardal uchaf o ran merched yn y gweithlu, gyda chanran o 54%.

Yn ôl yr ymchwil, mae cyfanswm o bron i 12 miliwn o fenywod yn gweithio yn y sector breifat a’r sector cyhoeddus ym Mhrydain erbyn hyn, sy’n cyfrif am bron i hanner – 49.4% – y 24.2 miliwn o weithwyr yn y Deurnas Unedig.  

Gwelwyd y nifer isaf o weithwyr benywaidd yn nifer o faestrefi Llundain fel Tower Hamlets (40%), Haringey (42%), a Southwark (43%).  

Cydnabod hawliau menywod  

Yn ôl swyddog o’r GMB, Kamaljeet Jandu, “mae nifer cynyddol o fenywod yn chwarae rhan bwysig yn yr economi ac yn y gweithle, ac ar yr un pryd yn gorfod cadw’r cydbwysedd gydag anghenion eu teuluoedd.”  

Dywed Kamaljeet Jandu fod yr ystadegau yma yn arwyddocaol gan eu bod nhw’n dangos nad yw’r hyn sy’n digwydd i fenywod yn y gweithle yn fater lleiafrifol bellach.  

“Dyliai’r Llywodraeth basio polisiau a deddfwriaethau er mwyn cefnogi menywod yn y gweithle. Dyliai unrhyw beth sy’n atal menywod gael eu cyflogi, neu i gael dyrchafiad, gael ei ddileu.  

“Yn y gweithle, dyliai menywod gael yr hawl i gyflog cyfartal a threfnaidau gwaith sy’n hwylus ac yn hyblyg i ddyletswyddau teuluol.”  

Fe wnaeth yr astudiaeth o dros 200 o ardaloedd gan y GMB ddangos bod y nifer yr ardaloedd lle’r oedd y mwyafrif o weithwyr yn fenywod wedi bron â dyblu i 85 o gymharu â 44 yn 2004.