Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn o Sir y Fflint yn dilyn damwain ffordd ddifrifol yn Ewlo.

Mi gafodd dyn lleol 22 oed ei anafu’n ddifrifol yn y digwyddiad ger gwesty’r St David’s Park rhywbryd cyn 12.45  bore Iau, 24 Mai.

Mae’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Walton, Lerpwl.

Mae’r dyn sydd wedi cael ei arestio yn cael ei holi gan yr heddlu yn Wrecsam.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r digwyddiad, gan ofyn i unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng 11.35 nos Fercher a 12.45 bore Iau i gysylltu â nhw ar y rhif 101.