Arwel Elias
Fe fydd un o swyddogion gweithgareddau awyr agored yr Urdd yn cystadlu mewn ras yr holl ffordd ar draws ynys ddeheuol Seland Newydd ddydd Gwener. 

Mae ras flynyddol ‘Speight Coast to Coast’yn denu cystadleuwyr o bob cwr o’r byd ac mae’n cael ei chyfrif yn y brif ras o’i fath. 

Mae’n 243 cilometr o hyd, ac yn croesi ynys y de o arfordir môr Tasman i arfordir y Môr Tawel. 

Bydd Arwel Elias, sy’n 33 oed o Fethesda, yn reidio 140km ar ei feic, rhedeg 36km ac yn ceufadu 67km – gyda’r gobaith o gwblhau’r ras o fewn 24 awr.

Mae Arwel Elias wedi bod yn cystadlu mewn cystadlaethau lleol llai, yn rhedeg a reidio, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ond dyma’r tro cyntaf iddo wneud ras ar y raddfa hon.

“Mae wedi bod yn freuddwyd gen i ers blynyddoedd i wneud y ras yma, ac eleni mi wnes i benderfynu mynd amdani,” meddai Arwel Elias.   

“Ar ôl misoedd o hyfforddi yng Nghymru, mi ddes i allan i Seland Newydd ddiwedd Rhagfyr i baratoi ar gyfer y ras – mi ges i dipyn o sioc o weld cwrs y ras a maint y sialens oedd o’m blaen.” 

‘Ymgyfarwyddo’

“Ond wedi pedair wythnos o hyfforddi ac ymgyfarwyddo gyda’r tirwedd allan yma, ryw’n teimlo bellach fy mod yn barod ar gyfer y ras.

“Dw i’n cael wythnos o orffwys llwyr rwan cyn y ras, ac yn bwyta’n dda er mwyn cael digon o egni ar ei chyfer.

“Mae tri ffrind i mi yn hedfan allan yma’r wythnos hon, i fod yn dîm cefnogi yn ystod y ras yn ogystal â ffrind arall i mi, Rhys, a oedd yn digwydd bod allan yma yn teithio sydd wedi bod yn help mawr i mi wrth hyfforddi.

“Yn rhinwedd fy swydd fel Swyddog Llwybrau i’r Brig efo’r Urdd, dw i wastad yn annog pobl ifanc i gredu yn eu gallu eu hunain ac yn ceisio rhoi cyfleoedd iddynt i wneud gweithgareddau awyr agored, ac roeddwn yn teimlo fod hwn yn rhywbeth oeddwn i angen ei wneud i’m datblygu a’m gwthio i fel unigolyn.” 

‘Balch’

Dywed Dyfrig Morgan, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Ieuenctid Urdd Gobaith Cymru, fod yr Urdd “yn hynod o falch o’r hyn mae Arwel ar fin ei gyflawni.”  

“Dim ond pedwar person o Brydain sydd wedi eu derbyn i wneud y ras eleni, ac mae Arwel yn un ohonyn nhw,” meddai Dyfrig Morgan. 

“Mae hyn hefyd yn dangos safon ac arbenigedd ein tîm o staff gweithgareddau awyr agored, nifer ohonynt wedi eu lleoli yng Ngwersyll Glan-llyn.  Y llynedd llwyddodd tri aelod o staff Glan Llyn i geufadu o amgylch arfordir Cymru, oedd yn dipyn o gamp.

“Mae Arwel, a staff Glan-llyn, yn esiampl wych i filoedd o bobl ifanc sydd yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Urdd bob blwyddyn.”