Sasha Jarvis a Sian Lloyd Davies
Mae crwner yn y cwest i farwolaeth dwy ferch ifanc mewn damwain ffordd ar Ddydd Calan wedi mynegi ei bryder am y cynnydd yn nifer y bobl ifainc sy’n gyrru dan ddylanwad cyffuriau.

“Rydyn ni’n gweld defnydd o gyffuriau yn fwy aml,” meddai’r crwner Dewi Pritchard Jones yn dilyn cwest i farwolaeth Sasha Jarvis, 19, a Siân Lloyd Davies, 21.

“Mewn achosion yn ymwneud â phobl ifainc, mae’n anghyffredin i ni beidio â dod o hyd i gyffuriau, ac mae’n adlewyrchiad trist bod defnydd cyffuriau – yn enwedig cocên – wedi dod mor gyffredin yn y rhan yma o’r byd.

“Y neges yw, mae cyffuriau’n lladd.”

Cocên ac alcohol

Bu farw’r ddwy pan darodd y car Vauxhall Corsa yn erbyn wal ger tafarn Glyn Twrog yn Llanrug am 6am ar 1 Ionawr, 2012.

Roedd profion yn dangos fod gan y gyrrwr, Sasha Jarvis, wedi cymryd cocên a bod ganddi lefel alcohol gwaed mwy na thair gwaith y lefel cyfreithiol i allu gyrru.

Nid oedd Sasha Jarvis, gweithiwr gofal o Lanberis, yn gwisgo gwregys diogelwch.

Cofnododd y crwner reithfarn o farwolaeth trwy ddamwain.

Ond cofnododd reithfarn o ladd anghyfreithlon yn achos  Siân Lloyd Davies, gweinyddwraig o Bentir ger Bangor oedd yn teithio yn y car gyda Sasha Jarvis.

Roedd Siân Lloyd Davies yn gwisgo gwregys diogelwch pan ddigwyddodd y ddamwain.

Dywedodd y crwner yn ei reithfarn y byddai’n debygol i Sasha Jarvis gael ei herlyn am achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus petai hi wedi goroesi’r ddamwain, oherwydd y lefelau o alcohol a chocên yn ei chorff.