Mae manylion buddsoddiad o £32.4 miliwn y flwyddyn er mwyn helpu’r plant mwyaf difreintiedig yng Nghymru wedi cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf.
Fe fydd y Grant Amddifadedd Disgyblion yn ceisio helpu i leihau effaith tlodi ar berfformiad plant yn yr ysgol ac fe fydd 100% o’r arian yn cael ei roi yn uniongyrchol i ysgolion.
Fe fydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn amlinellu cynlluniau’r grant pan fydd yn agor Ysgol yr Hendre yng Nghaernarfon yn swyddogol prynhawn ma.
Cyn y seremoni dywedodd: “Mae’r arian newydd yma yn hwb sylweddol i’n hysgolion gydag un amcan – i leihau’r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad addysgol.”
Daw’r arian yn dilyn cytundeb rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol i gefnogi cyllideb y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd ar yr amod y byddai rhai o’i pholisïau yn cael cefnogaeth y Llywodraeth.
Ymhlith y polisïau roedd cynyddu’r gwariant ar ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig.
Bydd yn seiliedig ar nifer y plant rhwng pump a 15 oed sy’n gymwys i dderbyn cinio ysgol am ddim. Dywed swyddogion y bydd hyn yn golygu £450 ychwanegol i bob disgybl sy’n gymwys.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams: “Ni fyddai’n buddsoddiad yma wedi digwydd oni bai bod y Dems Rhydd wedi mynnu hynny yn ystod y trafodaethau am y gyllideb.
“Buddsoddi yn ein system addysg yw’r ffordd orau i dorri cylch amddifadedd, iechyd gwael ac economi gwan.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi annog ysgolion i wario’r arian ar wella llythrennedd a rhifedd.