Chris Coleman a Geoff Wright
Mae gan reolwr tîm pêl-droed Cymru gôl newydd – dysgu Cymraeg.

Mae Chris Coleman newydd ddechrau mynychu gwersi Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd a dywedodd ei fod am fod yn ddigon rhugl i gael ei gyfweld yn y Gymraeg yn y dyfodol.

Nid yw’r cyn-chwaraewr proffesiynol o Abertawe wedi cael gwers Gymraeg ers roedd yn 12 oed ond dywedodd ei diwtor, Geoff Wright, ei fod yn “ynganu’n arbennig o dda.”

Dywedodd Chris Coleman fod dysgu’r iaith wedi bod yn sbardun iddo ddarllen mwy am hanes Cymru. “Mae’n ddiddorol iawn” meddai.

Hyfforddwr pêl-droed arall sydd wedi bod yn cael gwersi gyda Geoff Wright yw Jarmo Matikainen, hyfforddwr tîm Merched Cymru.

“Mae llawer o’r staff hyfforddi a rhai o’r chwaraewyr yn siarad Cymraeg a dw i’n teimlo ei fod yn bwysig iawn i allu cyfathrebu gyda nhw yn eu mamiaith” meddai’r gŵr o’r Ffindir.

Bydd Chris Coleman yn ail-afael yn y gwersi ar ôl iddo ddychwelyd o Efrog Newydd, ble mae Cymru’n chwarae Mecsico nos Sadwrn yma.