Llys y Goron Caernarfon
Mae dyn 27 oed wedi cael ei ddedfrydu i gyfnod amhenodol yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o dreisio tair dynes.
Fe fydd Alexander Thomas o Benygroes, ger Caernarfon yn gorfod treulio o leiaf chwe blynedd yn y carchar. Bydd hefyd yn cael ei roi ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw am oes.
Yn Llys y Goron Caernarfon cafwyd Thomas yn euog o bum achos o dreisio ym Mangor a Phenygroes rhwng 2006 a 2010. Roedd Thomas wedi gwadu’r cyhuddiadau.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Dafydd Hughes: “Fe wnaethoch orfodi eich dioddefwyr i fynd drwy’r boen o roi tystiolaeth ac fe ddangosoch chi ddirmyg a haerllugrwydd tuag at ferched yn gyffredinol.”
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi croesawu’r ddedfryd.
Dywedodd llefarydd: “Mae’n bwysig fod pawb yn y gymuned yn ymwybodol y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi’r cymorth arbenigol priodol er mwyn cynorthwyo dioddefwyr ar bob cam o’r broses. Mae Heddlu Gogledd Cymru’n cymryd y materion hyn o ddifrif felly mae’n galonogol gweld y ddedfryd hon yn cael ei rhoi.”