Y Polyn ger Nantgaredig
Y Polyn yn nyffryn Tywi yw bwyty gorau Cymru yn ôl darllenwyr y Good Food Guide.
Y bwyty ger Nantgaredig a ddaeth ar frig adran Cymru yng ngwobrau blynyddol y llawlyfr.
“Ry’n ni wrth ein boddau,” meddai Sue Manson, sy’n rhedeg y bwyty ers saith mlynedd gyda’i gŵr Mark.
“Ein cwsmeriaid ni, nid beirniaid proffesiynol, a bleidleisiodd drosto’n ni a ry’n ni’n falch o hynny.”
“Ry’n ni’n rhoi pwyslais ar fwyd da, lleol ac yn glynu at ein cryfderau ni heb ormod o ffws.”
Dywedodd un o olygyddion y llawlyfr, Elizabeth Carter, fod y bwyd yno yn “fendigedig.”
“Mae wedi ei baratoi’n iawn, yn dymhorol ac yn lleol.”
Bydd Y Polyn nawr yn cystadlu gydag enillwyr rhanbarthol eraill o wledydd Prydain am deitl bwyty gorau’r flwyddyn, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 20 Mehefin.