Osama Bin Laden
Mae meddyg o Bacistan a helpodd milwyr America i ddal Osama bin Laden wedi cael ei garcharu am deyrnfradwriaeth.

Yn ôl swyddogion lleol y llywodraeth mae Shakil Afridi wedi cael dedfryd o 33 mlynedd gan lys yn ardal Khyber yng ngogledd Pacistan, ble mae gan lwythi lleol ymreolaeth.

Bu Shakil Afridi yn rhedeg rhaglen frechu ar ran y CIA a oedd  yn fodd o gasglu DNA Osama bin Laden a phrofi ei fod yn lletya mewn tŷ caeedig yn Abbottabad.

Mae ysgrifennydd tramor yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton, wedi galw ar Bacistan i ryddhau Afridi am iddo wasanaethu buddiannau Pacistan ac America.

Daw carchariad y meddyg ar adeg sensitif ym mherthynas Pacistan a’r Unol Daleithiau. Mae Pacistan yn gwrthod agor llwybrau i gyflenwi Nato yn Afghanistan ar ôl i awyrennau milwrol America ladd 24 o filwyr Pacistan chwe mis yn ol.